Thomas Pennant
Cysylltiadau Cymreig

By (author) Ffion Mair Jones

ISBN13: 9781837722914

Imprint: University of Wales Press

Publisher: University of Wales Press

Format: Paperback / softback

Published: 15/08/2025

Availability: Not yet available

Description
Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel ‘teithiwr’. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy’n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â’i ddiddordebau’n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith – o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a’r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a’r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o’r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur.
Delweddau Rhagair Cydnabyddiaeth Rhagymadrodd Pennod 1 - Y Brodyr a’r ‘Bennant’: Thomas Pennant a Morrisiaid Môn Pennod 2 - ‘Fy ngenedigol wlad’: Y teithiwr Thomas Pennant a’r Teithiau yng Nghymru Pennod 3 - ‘[F]y nghydymaith teilwng a diflino …’: Thomas Pennant a John Lloyd, Caerwys Pennod 4 - ‘Fy nhrysor’: Moses Griffith a Thomas Pennant Pennod 5 - Gwaddol yr ‘enwog Mr. Pennant’: Cynnal a chyfieithu, 1828–68 Pennod 6 - John Rhŷs a’r Teithiau yn Nghymru Llyfryddiaeth: Llawysgrifau Llyfryddiaeth: Gwefannau Llyfryddiaeth Ddethol
  • History
  • Classic travel writing
  • Professional & Vocational
Height:
Width:
Spine:
Weight:0.00
List Price: £19.99